Gwalia Singers

(Swansea)
Gwalia logo

Rhif Elusen 1210553


Cantorion Gwalia

(Abertawe)


 
  Os ydych chi'n aelod o Facebook,
  Gwiriwch ein grŵp!    

Welsh Flag
I ddarllen fersiwn Saesneg
o'r newyddion
cliciwch yma

2025

Ymarfer Gwalia gyda’r Noddwyr.  Neuadd Guides/Scouts, Brynmill.  13/05/25

Gwahoddodd Gwalia’u Noddwyr i’r noson ymarfer i weld y dulliau addysgu cerddorol ar waith. Roedd yn gyfle hefyd i gwrdda’r Cyfarwyddwr Cerdd Matthew Sims,y gyfeilyddes Rhian Liles, a’r Cantorion-i gyd yn ddiwyd wrth eu gwaith ymarfer!  Darparwyd lluniaeth yn yr egwyl gan y Gwragedd-a chyflwynodd Wendy Gadd, y Gadeiryddes siec o £1.000 i Rhian Liles tuag at brynu allweddell newydd.  Noson ymarfer dda!Llawer o ddiolch i’r Noddwyr am eu cefnogaeth gyson!

Cyngerdd Cantorion Gwalia a Chôr Meibion Cairceri(Cirencester) Eglwys San Pedr,Newton  26/04/25 (Mwy o luniau)

Am noson arbennig!  Syniad hyfryd oedd gwahodd Côr Meibion Cairceri i ymuno â Chôr Gwalia yn Eglwys ysblennydd San Pedr gan ddau o gantorion y Côrau a fu mewn cyswllt am flynyddoedd lawer!  Cyrhaeddodd y Côrau’n gynnar ar fin nos heulog am y prawf sain, a chynorthwyodd Wragedd Gwalia a’r Eglwys wrth y fynedfa a gweini’r bar.

David Williams o’r Gwalia oedd  cyflwynydd y noson.  Rhoddodd groeso cynnes Cymreig i’r ffrindiau Cairceri, canwyd yr anthem ‘God Save The King’ a nodwyd cynnwys rhaglen gychwynnol Gwalia. Dechreuasant â chän newydd ‘Let All Men Sing’ a’r ffefrynnau ‘What Would I Do Without My Music’, ‘Y Darlun’,a’r dôn bŵerus ‘There Is A Land’.Pob un ohonynt yn berfformiadau gwych!

Daniel Davies o’r Gwalia oedd yr unawdydd,ac roedd ei gyflwyniadau ef o’r sioe gerdd ‘Why God Why’ Miss Saigon yn anhygoel! Rhoddodd y gynulleidfa gymeradwyaeth fonllefus!  Roedd pedair cân Cairceri ‘Let It Be Me’, ‘Stout Hearted Men’, ‘Poor Wayfaring Stranger’ a ‘A Million Dreams’ yn berfformiadau clodwiw, a’r gynulleidfa’n dotio! Roedd hanner cyntaf y gyngerdd o safon aruchel ac yn wledd gerddorol!  Caniataodd yr egwyl seibiant cymdeithasol a lluniaeth.

Cyflwynodd David Williams yr ail hanner â Chôr Cairceri’n canu pum cân gan gynnwys ‘Reverend Eli Jenkins’ Prayer’ ffefryn Cymreig!  Canodd Daniel Davies ‘Bring Him Home’ Les Mìserables-eto perfformiad penigamp!  Yna cwblhaodd Gwalia’u rhaglen gydag amrywiaeth o ffefrynnau gan gynnwys yr un derfynol bŵerus ‘If We Only Have Love’. Perfformiad olaf y gyngerdd oedd y Côrau ar y cyd yn canu’r ‘American Trilogy’ ddeinamig, a’r Anthem Genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.

Noson hollol arbennig a gwerthfawrogiad ysgubol am waith caled y ddau Gôr,eu Cyfarwyddwyr Cerdd Matthew Sims a James Willshire,cyfeilyddesau Rhian Liles a Michelle Howarth, yr unawdydd Daniel Davies, a’r cyflwynydd David Williams.  Yna aeth y ddau Gôr i gwmnïa’n gymdeithasol â bwffe yng Nghlwb Golff Bae Langland.  Amser i ymlacio a mwynhau’r ‘hwyrnos’.  Gobeithio i Gôr Meibion Cairceri fwynhau’r profiad yn Abertawe!


Cyngerdd Ddaffodil (er lles Elusen Marie Curie, Y Mwmbwls a Gŵyr) - Mawrth 1af, Eglwys All Saints, Ystumllwynarth

 

Yn safle ysblennydd All Sainrs canasom yn enw ein nawddsant, Dewi. Dydd Sadwrn, Mawrth 1af oedd ein cyngerdd gyntaf ym 2025. Roedd dathlu’n diwylliant ynghŷd â chodi arian er lles Marie Curie, a chanu er cof rhai Cantorion annwyl a gollwyd yn y misoedd diwethaf yn ddigon i fagu egni emosiynol i’r noson. Cododd y Côr £2.129 i Elusen Marie Curie ar y noson. Diolch arbennig i Jeff, un o’n Cantorion baritôn a helpodd i drefnu’r noson.

Ein pedair cân agoriadol ‘There Is A Land’, ‘Calon Lân’, ‘Y Tangnefeddwyr’ ac ‘O Gymru’-caneuon balchder,heddwch a chadernid. I’r mwyafrif o’r Côr cyfle wedyn i orffwys a myfyrio. Ond nid felly i’n Daniel Davies ni. Rhoddodd Daniel seibiant i ni, a daeth â’r West End i Dde-Orllewin Cymru gyda’i unawdau ‘Why God Why’ Miss Saigon, ‘Til I Hear You Sing’ Love Never Dies, a ‘Bring Him Home’ Les Misérables. Roeddwn yn teimlo cyswllt y gynulleidfa â’r gerddoriaeth a’u myfyrdod personol.Eu tawelwch.Amser yn llonydd!Diolch Dan!

Canodd y Côr pedwar darn arall cyn yr egwyl, yr emyn Cymraeg ‘Gwahoddiad’,fy ffefryn. Cafwyd ymateb emosiynol wrth y gynulleidfa ac ambell ddeigryn wrth i’r ‘Amens’godi i’r entrychion. Newid cywair,nodau ysgafnach i gychwyn yr ail hanner. ‘5’2”,Eyes Of Blue’’Has Anybody Seen Her’. Mae’r Cör yn dwlu ar hwyl a symudiad y darn;siwr i bawb oedd yn gwylio fwynhau hefyd.

Ein ‘Artist Gwâdd’ oedd ein Cyfarwyddwr Cerdd,Matthew Ioan Simms. Canodd Matt ‘O Sole Mio’(My Sunshine) yn llawn dyfnder,pŵer a hiraeth. Yn ‘Hushaby Mountain’ a ‘Cilfan Y Coed’ aed â ni i fan heddychlon, ‘perffaith’ am ysbaid.Diolch Matt.



Daethpwyd â’r noson i uchafbwynt â ‘If Only We Have Love’ darn sy’n cwestiynu a mynegi pŵer ‘cariad’ yn ein bywydau. Wrth i ni orffen ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ roedd angen gorffwys a lluniaeth.Ac yn sicr roedd Rhian Liles, ein cyfeilyddes hir-amser yn llawn haeddu seibiant. Arweiniodd Rhian 22 o ganeuon ar y piano.Diolch o galon Rhian!

Bydd ein cyngerdd nesaf yn croesawu Côr Meibion Cirencester(Cair Ceri) i Abertawe.Rydym yn cyd-ganu gyda hwy ar ddydd Sadwrn, Ebrill 26,2025 yn Eglwys San Pedr, Newton,SA34RA am 7 o’r glich.

Gobeithio eich gweld yno( gweler yr adran docynnau ar y wefan neu siaradwch â Chantorion am fanylion)

Roger Gadd

Tristwch o’r mwya yw adrodd marwolaeth Roger Gadd ar Ionawr 29, 2025 ar ôl brwydro cancr am gryn amser.Bu Roger gyda’r Côr am tua 6 mlynedd, ac yn ogystal â’i lais baritôn hyfryd cofier ef am ysgrifennu adroddiadau digwyddiadau’r Côr i’r Wefan. Ein cydymdeimlad â Wendy, ei wraig a’i deulu oll.

Roedd yn achlysur trist i’r Côr i ganu yn angladd Roger yn Amlosgfa Treforus ar ddydd Mawrth, Chwefror 18fed. Gofynnwyd i ni ganu ‘Gwahoddiad’, un o’i ffefrynnau.  Aeth nifer o’r Cantorion i’r gwasanaeth yng Nghapel Clûn hefyd a’r derbyniad yn ‘Norton House’, Y Mwmbwls.  Diwrnod anodd i bawb!Gwelir ei golled yn fawr-ond cofier yn annwyl amdano!

Nadolig 2024 - gweler mwy o luniau

Priodas a chyri - Ionawr 18fed, 2025

Am siwrnai! Gadawodd tua 45 o gantorion Maes Awyr Abertawe mewn bws i ganu ym mhriodas Charlotte Ann Goodwin yn Encil Coedwigaeth Gellifawr, ger Abergwaun â digon o amser i’r daith. Pan roeddem tua 12 munud i ffwrdd o’r lleoliad cymerodd y gyrrwr droad anghywir ac roeddem ni mewn lôn gul heb ffordd o gwmpas troad cul. Ar ôl treulio llawer o amser yn edrych ar fapiau a mynd tua n’ôl am ffordd hir cyrraeddasom y lleoliad yn y pendraw  45 munud yn hwyr. Roeddem i fod i ganu ar ôl y seremoni briodasol, a gan ein bod yn hwyr anfonwyd y gwesteion i’r bar i aros amdanom. Ar ôl cyrraedd trefnasom ein hunain a dychwelodd y gwesteion gyda’u diodydd yn llawen dros ben. Canasom 6 chân ‘Calon Lân’, ‘You Are So Beautiful’,’O Gymru’, ‘Can’t Take My Eyes Off You’ ( gyda’r gynulleidfa’n ymuno) ‘Gwahoddiad’, a ‘God Only Knows’, a gafodd gymeradwyaeth frwdfrydig. Ar gyfer yr ‘encore’ canasom ‘There Is A Land’, a ‘Hen Wlad Fy Nhadau’, a gorfu i’r gwesteion ganu pennill ar eu pennau eu hunain.Gadawsom y Neuadd i gymeradwyaeth bellach a diolchiadau niferus gan y Briodferch, Priodfab, a gwesteion.

Roedd y siwrnai adref yn llai trafferthus. Stopion ni yng Nghlwb Rygbi’r Cwins, Caerfyrddin am gyri neu lasagne a chwpwl o beints!. Ar ôl bwyta sefydlon ni yn y bar am yr adloniant’afterglow’ hwylus dan ofal Nick.

Cyrraeddasom n’ôl yn y maes awyr yn y pendraw  am 11 y.h ar ôl diwrnod da lle achubodd ein canu ni rhag diwrnod hunllefus!

Geoff Wheel - Mehefin 3, 19  - Rhagfyr 26,2024

Tristwch o’r mwyaf yw datgan bod Geoff Wheel wedi huno’n dawel yn ei gwsg yn oriau mân Diwrnod San Steffan,2024. Roedd yn ddyn teulu arbennig, ac yn ŵr bonheddig. Ym 2011 roedd yn browd o fod yn Llywydd Cantorion Gwalia,swydd am 12 mlynedd. Yn ystod yr holl amser hwwnw bu wastod yn gefnogol iawn a llawn anogaeth ym mhob peth y gwnaethom.

Fel dyn ifanc bu Geoff yn chwaraewr rygbi undebol i’r Mwmbwls, ac Abertawe, ac yna daeth yn chwaraewr Cymru rhyngwladol, a chafodd 32 cap rhyngwladol. Yn hwyrach, bu’n organydd ym Mhlwy St Thomas ble bu’n  gweithio ‘Tuck Shop Geoff’ gyda Brigâd y Bechgyn bob dydd Mercher. Yn anffodus, trawyd ef â ‘Motor Neurone Disease’ ac ymddiswyddodd fel Llywydd ym 2003.Mae’n wir drawiadol ein bod wedi cynnal cyngerdd teyrnged iddo yn Nhachwedd, cyn iddo farw i godi arian i MND, a llwyddasom i godi £10,039 i’r achos teilwng iawn hwn. Ar ddydd Gwener, Ionawr 26, 2025 canasom drefniant Robat Arwyn o ‘Benedictus’ yn ei angladd  yn Eglwys St Thomas, Abertawe.

Gwelir ei golled yn fawr gan ei holl ffrindiau yn y Côr-a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’i briod, Christine a’i deulu oll.


Cyngerdd Eglwys St.Hilary’s, Cilâ - Rhagfyr 20fed, 2024

Dechreuodd y diwrnod llawn emosiwn i’r Côr yn y prynhawn gydag angladd ein ffrind annwyl ac aelod ffyddlon Lawrence Sutton. Camodd y Côr i mewn i’r Amlosgfa orlawn yn eu gwisg swyddogol, a chanu ‘Benedictus’ yn deyrnged i Lawrence a’i deulu. Roedd y gân yn emosiynol iawn yn awyrgylch y capel bach.

Doedd dim llawer o amser cyn i’r Côr fynychu’r gyngerdd Nadolig olaf yn Eglwys St. Hilary’s,Cilâ, ymlaen i’r llwyfan,eto yn eu gwisg lawn ond gyda’u teis Nadoligaidd lliwgar.

Perfformiodd y Côr amrywiaeth o ganeuon o’u crynoddisg newydd ynghŷd â ‘Five Foot Two’ a oedd yn dipyn o ffefryn gyda’r gynulleidfa yn calonogi’r Eglwys yn llawen â llawer o wenu a churo traed. Yn yr ail hanner cafwyd ffefrynnau Nadolig y Côr, gan gynnwys mewnbwn y gynulleidfa a chanu. Yn ystod y toriadau diddanwyd y Côr gan y gantores leol Nabeel Mash a’i gŵr,ficer St.Hilary’s.

Ar ôl yr egwyl cyflwynwyd lluniau ffräm o’r crynoddisg newydd i Matt, y Cyfarwyddwr Cerdd, a Rhian, ein cyfeilyddes, i gydnabod eu holl waith da. Gorffennwyd y noson gyda’r Côr yn gwerthu copïau o’r crynoddisg diweddaraf ‘If We Only Have Love’ - anrheg hosan Nadolig am £8.

Neuadd Vivian, Blackpill - Rhagfyr 16eg, 2024


Eto roedd cynulleidfa lawn ar ein cyfer yn Neuadd Vivian, Blackpill.  Roedd ymwelwyr yn y res flaen o British Columbia, Canada na welodd Gôr  Cymreig o’r blaen, ac roeddent wedi drysu a dwlu ar bob munud o’r gyngerdd.  Dywedasant iddo neud eu gwyliau hyd yn oed yn fwy arbennig.


Canodd y Côr amrywiaeth o ganeuon gan gynnwys ‘Benedictus’, ‘You Raise Me Up’, ‘Five Foot Two’ yn yr hanner cyntaf, a detholiad o garolau a chaneuon Nadolig yn yr ail hanner-ac annog y gynulleidfa i ymuno gyda charolau traddodiadol a ‘Twelve Days of Christmas’.


Dyma’r bedwaredd gyngerdd Nadolig eleni i’r Côr, bydd y pumed a’r olaf ar ddydd Gwener yr 20fed yn Eglwys Saint Hilary’s, Cilâ.  Bydd y gyngerdd olaf yn achlysur cymysg o’r lleddf a’r llon oherwydd byddwn yn mynychu angladd ein cyd-aelod mynwesol, oesol yn y prynhawn.


Ein cydymdeimlad dwysaf â’r teulu oll!

Cyngerdd Nadolig  Maggie’s - Eglwys All Saints, Ystumllwynarth - Rhagfyr 12fed, 2024.

Un o uchafbwyntiau calendr Gwalia yw Cyngerdd Nadolig Maggie’s yn Eglwys All Saints.  Bu’r Côr yn edrych ymlaen at noson hwylus o gerdd ac ysbryd Nadolig gyda Band Pres Tref Pontarddulais ac acwstig anhygoel yr Eglwys.

Cychwynnodd yr hanner cyntaf â chanu carolau cynulleidfaol i gyfeiliant y Band.  Yna, chwaraeon nhw ddetholiad o’u rhaglen gerddorol gan gynnwys rhai unawdau - perfformiadau aruchel a thalent arbennig!

Dilynodd Gwalia â’u dewis cerddorol hwy, ynghŷd â pherfformiad ‘Gwahoddiad’ yn deyrnged i’w diweddar cyd-aelod mynwesol Laurence Sutton, fu farw pythefnos yn ôl.

Roedd yr egwyl yn gyfle am ddiodydd a chymdeithasu.

Canu cynulleidfaol eto i ddechrau’r ail-hanner, ac eitemau Nadoligaidd gan Fand Tref Pontarddulais.  Parhaodd Gwalia â’r ysbryd Nadoligaidd gyda’u heitemau hwythau, ac yna  canu ‘Stop The Cavalry’ ar y cyd i ddiweddu’r noson.

Cyngerdd hyfryd o gerdd ac ysbryd hwylus -ac elw i’r elusen glodwiw Maggie’s.  Pleser o’r mwyaf!

Ymlaen â’r Côr wedyn i fwynhau, ymlacio a chanu yn yr Oyster House, Ystumllwynarth.  Diolch am y gwahoddiad a’r bwffe!

Scout/Guide Hall, Brynmill, Abertawe - Rhagfyr 10fed. 

Mae cyngerdd blynyddol Gwalia i’r Gwragedd bob amser yn hamddenol a Nadoligaidd.

Roedd hanner cyntaf y gyngerdd yn cynnwys detholiad cymysg o raglen gerddorol y Côr, yr hwylus a’r mwy traddodiadol. Canwyd y ffefryn ‘Benedictus’ yn deyrnged i’r cyd-aelod mynwesol Lawrence Sutton a fu farw wythnos yn ôl-ac yna ‘munud o dawelwch’ i ddilyn. Roedd yr eitem olaf yn berfformiad cyntaf o ‘Five Foot Two’ oedd yn caniatau’r Côr i fod yn hwylus a llawn sbri-ac yn annog y gynulleidfa gyda’u canu carolau cyn yr egwyl.

Rhoddodd  y Dirprwy Gadeirydd, Mike Phippen glôd arbennig i’r cyn-Lywydd, Mr.Geoff Wheel, am ei ymrwymiad di-ffael i’r Côr am flynyddoedd lawer, a chyfrannodd swm o £11,030 i Janet Fisher, MND De-Orllewin Cymru, fel teyrnged iddo. Cyfraniad anhygoel gan y Côr a gasglwyd yn ddiweddar! Llawer o ddiolch i Mike Phippen a phob unigolyn a busnesau a gefnogodd yr elusen,

Yna, canodd Gwalia eu heitemau Nadolig-a mwy o ganu carolau cynulleidfaol i orffen.Diweddwyd y noson â bwffe blasus i bawb!

Mae’r noson flynyddol hon yn bleser o’r mwya’!


Eglwys St. Catherine's, Gorseinon - Rhagfyr 6ed.

Roedd wir yn achlysur emosiynol i’r Côr yng Nghyngerdd Elusennol Excelsior Abertawe ar nos Wener,Rhagfyr 6ed am ddau reswm: eu perfformiad cyntaf ers marwolaeth eu cyd-aelod hoffus, mawr ei barch a’i ymrwymiad i’r Gwalia ers blynyddoedd lawer,Lawrence Sutton-ac yna canu gyda’i ferch Anna a’i Chôr hithau, yr Excelsior Ladies.

Yn hanner cyntaf y gyngerdd canodd y Gwragedd ganeuon ac unawdau hyfryd o’u rhaglen gerddorol-ac yna’r Gwalia’n canu nifer o’r ffefrynnau corawl meibion.

Yn sgîl yr egwyl fer cyflwynodd Gwalia’u caneuon Nadolig hwylus, ac yna’r Excelsior Ladies eu detholiad Nadoligaidd hwy.

Y diweddglo oedd y ddau gôr ynghyd yn canu fersiwn hwylus o ‘The Twelve Days of Christmas’.

Pwysleisiodd y ficer, Dr. Adrian Morgan ei werthfawrogiad o godi arian ar gyfer cynlluniau adnewyddu yn 2025.


Noson arbennig,a’r ddau gôr yn wych!  Yna,ymladdon ni’r tywydd enbyd rhybudd coch ar y siwrnai adre!

Laurence William Sutton - Chwefror 4ydd 1946 - Rhagfyr 1af 2024


Tristwch o’r mwyaf yw adrodd marwolaeth Lawrence Sutton ar Ragfyr 1af 2024. Ein cydymdeimlad dwysaf â Pam, ei wraig, a’i holl deulu.

Daeth Lawrence i Gymru yn fachgen ifanc a dysgodd ganu soprano yn ei Gör Eglwys, yna llais alto, a thenor, a bâs yn y pendraw.

Nifer o flynyddoedd yn ddiweddarach ar ôl priodi a magu teulu, perswadiodd un o’r ffrindiau hynny iddo ymuno â Chantorion Gwalia, ac ymunodd â’r ail denoriaid. Roedd yn aelod pybyr o’r Côr am dros 25 mlynedd. Roedd yn wir yn ŵr bonheddig, addfwyn, bob amser yn fodlon croesawu aelodau newydd i’r Côr, a chynnig help a chyngor i unrhywun.

Ym 2008 ymgymrodd â gwaith Trysorydd y Côr a wnaeth yn raenus dros 15 mlynedd. Parchwyd yn fawr ei syniadau a chynlluniau gan holl bwyllgor y Côr. Mwynhaodd y cyfeillgarwch, y rhaglenni canu, yr ymarferion, a’r cyfleoedd i deithio a pherfformio ym Meizing, Barbados, a sawl lle yn Ewrop.

Gwelir ei golled yn fawr gan ei holl ffrindiau yn y Côr.


Stadiwm Principality, Caerydd. Tachwedd 17, 2024

Gadawodd Cantorion Gwalia Faes Awyr Abertawe’n llawn cyffro ar fore Sul,Tachwedd 17eg am achlysur tra aruchel sef canu ar faes nodedig y Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ar gyfer gêm Cymru ac Awstralia.  Roeddem yn gobeithio annog Tîm Rygbi Cymru i berfformio’n arwrol ar ôl sawl colled diweddar.

Roedd y disgwyliadau’n uchel, y caneuon a’r harmonïau newydd wedi’u dysgu a’u trwytho.  Ar  ôl cyrraedd aethpwyd â ni i’r twnel danddaearol wrth yr allanfa i’r maes i ymarfer asio’n lleisiau ynghyd  â’r Band Pres a’r ddau gôr  gwahoddededig eraill sef Yogi o’r Bala a Glyn Nedd.

Wedi seibiant o awr galwyd ni i’n rhesi i orymdeithio allan i’n safle sefyll i arweinyddiaeth a chyfeiliant ysgytwol Band Pres yr Ymerodraeth Gymreig a’u ‘gafr’.  Ar ôl canu chwe chân arbennig rhedodd y tîmau allan i arddangosfa anhygoel o dânau a phlu,y cefnogwyr a’r chwaraewyr ar dân!

Wedi canu’r ddwy anthem arweiniwyd ni i seddau cyfforddus wrth ochr y maes,gweld yn glir.  Cawsom gyri, cymdeithasu a chanu gyda’n gilydd yng Nghlwb Rygbi Caerdydd wi leddfu’r canlyniad siomedig!  Profiad anhygoel fodd bynnag.  Diolch Undeb Rygbi Cymru!

           

Coleg prysur, Tycoch. 9/11/24

Noson arbennig i’r Côr i ddiolch i’r cyn Lywydd am flynyddoedd lawer, Mr Geoff Wheel am ei wasanaeth a’i fewnbwn nodedig i Gôr Gwalia, a chodi arian ar gyfer achos MND.

Roedd y rhaglen yn amrywiol a diddorol yn cynnwys y tônau traddodiadol ysgytwol a’r melodïau soniarus yn ddwyieithog-a werthfawrogwyd yn fawr gan y gynulleidfa.  Diolch i Matthew Sims, Cyfarwyddwr Cerdd Gwalia, Rhian Liles,y gyfeilyddes a’r unawdwyr Dan,Tom a Craig.

Roedd unawdwyr ifanc Coleg Gŵyr yn plesio’r gynulleidfa’n fawr hefyd gyda’u perfformiadau gwych (a Rhian Liles yn cyfeilio) - merched ifainc talentog iawn fydd â gyrfa gerddorol addawol o’u blaenau yn y dyfodol.

Hoffai’r Côr ddiolch i’r holl noddwyr am eu caredigrwydd,a phob ymdrech i godi arian e.e tocynnau raffl, diodydd egwyl  gan Wragedd Gwalia - ac yn enwedig Coleg Gŵyr am y lleoliad.

Noson hyfryd wir!


 

Diwrnod prysur iawn o recordio! Hydref 26ain,2024.


Ar ddydd Sadwrn cyfarfu’r Côr yn Eglwys All Saints,Ystumllwynarth i recordio’n crynoddisg diweddaraf.Pan gyrhaeddodd y Côr roedd Jordan y Peiriannydd Recordio ac Izz o ‘Cobra Music’ wedi gosod 15 meicroffôn ar flaen  y Côr a’u bwrdd sain ac offer recordio yn y cefn.

Treuliasom y diwrnod cyfan,ac ambell saib coffi a chinio’n recordio 14 cân.Gorfod i ni recordio bob cân ddwywaith a rhai tair gwaith- rhai darnau ychwanegol o ganeuon i’w hasio’n ddiweddarach.

Deuai Matt a’r tîm Cerdd (Rhian,Nick a Gareth) n’ôl ar ôl clywed y recordiad i’n hysbysu sut i wneud gwelliannau ar gyfer y recordiad nesaf.Byddai synau megis gwichian y llwyfan,ffônau symudol,beiciau modur yn gwibio heibio-yn aml yn golygu gorfod dechrau’r gân eto.

Gweithiodd Matt yn galed ar hyd y dydd i gael y gorau allan ohonom,a Rhian yn cyfeilio’n ddi-flino ar y piano.Y dasg nesaf fydd i’r Tîm Cerdd wrando ar y recordio i benderfynu pa ganeuon fydd ar y crynoddisg.Rydym yn edrych ymlaen i glywed y canlyniad terfynol.Bydd y crynoddisg ar gael i’w brynu cyn hir neu lawrlwytho ar y rhyngrwyd.

Gŵyl Gerdd a Chelfyddydau’r Mwmbwls - Hydref 5ed,2024. (mwy o luniau)

Am noson arbennig yn Eglwys All Saints, y Mwmbwls ar gyfer cyngerdd olaf yr Ŵyl Gerdd gyda Chantorion Gwalia.  Arweiniwyd y Côr gan y Cyfarwyddwr Cerdd nodedig Matthew Sims a’r gyfeilyddes Rhian Liles.  Ymddangosodd y Côr yn eu gwisgoedd trwsiadus.  Doedd y gyngerdd na’r Côr yn siom-cychwynnwyd gyda fersiwn drydanol o ‘There Is A Land’ ac i ddilyn ‘What Would I Do Without My Music’, ‘Y Darlun’ a ‘You Raise Me Up’ - oedd yn cynnwys perfformiadau unigol gan Craig a Tom.


Un cryfder mawr sydd gan y Côr yw eu bod yn canu heb gopïau,does dim angen edrych ar gopi a cheir pob llygad ar yr arweinydd.  Mae’r rheolaeth yn sgîl hyn yn codi perfformiad pob darn a chydbwysedd pob llais  yn wych ar eu hyd.  Trefnwyd y rhaglen yn dda iawn,dechreuwyd pob hanner â darn ysgytwol a gorffen yn yr un modd.  Yn ystod yr hanner cyntaf rhoddodd Matthew Sims berfformiad unawd gwych o ‘Cilfan Y Coed’, ‘Hushaby Mountain’ ac ‘I’ll Walk With God’ - a diweddwyd gyda chymeradwyaeth ar draed.  Yna canodd y Côr ‘Benedictus’, ‘You Are So Beautiful’, ‘O Gymru’ a ‘How Great Thou Art’.


Dechreuwyd yr ail hanner â ‘Calon Lân’ ac ‘Y Tangnefeddwyr’ a ‘The Impossible Dream’ i ddilyn,a chafodd y gynulleidfa a’r Côr dipyn o hwyl yn canu ‘Can’t Take My Eyes Off You’ gyda’i gilydd.  Roedd ymateb anhygoel i Daniel Davies gyda’i dair cân o’r West End ‘Till I Hear You Sing’, ‘This Is The Moment’ a ‘Maria’ o’r West Side Story.  Cafodd Daniel gymeradwyaeth aruchel ar draed.  Roedd ei berfformiad o safon glodwiw a does dim dwywaith bod ganddo ddyfodol addawol iawn.  Yna, cwbwlhaodd y Côr y noson â ‘Cwm Rhondda’, ‘One Day I’ll Fly Away’ a ‘If We Only Had Love’ cyn gorffen gyda’r Anthem Genedlaethol.  Noson hyfryd gyda cherddoriaeth amrywiol,wych a’r gynulleidfa ar eu traed ar y terfyn wedi wir mwynhau!

Sardinia  Medi 6 - 13. (mwy o luniau)


Dydd Gwener 6ed

Cychwyn cynnar i’r Côr o Abertawe i Faes Awyr Gatwick - a Portoscuso, Sardinia.  Diwrnod hir o deithio - ond croeso cynnes Eidalaidd yng Ngwesty’r Don Pedro,a phryd bwyd blasus a gwinoedd lleol ym Mwyty’r Nautilus.  Trefniadau teithio gwych! - diolch Alan!




Dydd Sadwrn 7fed

Diwrnod hamddenol gwerthfawrogol cyn pryd bwyd fin nos a pherfformiad.  Tywydd bendigedig ar gyfer haul,tywod,môr ac hwyl!

Ciniawa hyfryd ‘al di fuori’n ddiweddarach yn y Nautilus,a pherfformiadau o gyflwyniad gan y Côrau i gyd. 

Parhaodd y tymheredd uchel fin nos ac i’r perfformiadau yn Eglwys hardd Portoscuso.  Canu penigamp gan y Côrau,a Chantorion Gwalia’n wych - derbyniad da!  ‘Ottimo lavoro’!


Dydd Sul 8fed

Bore hamddenol,a phryd ysgafn,  prynhawn rhydd cyn y ciniawa yn y Nautilus,a thaith awr i Eglwys Gadeiriol Tratalias ar gyfer yr ail berfformiad,a dewis caneuon ychydig yn wahanol.  Hyfryd clywed canu soniarus y ‘Tangnefeddwyr’.  Ni amharwyd ar y gerddoriaeth nac ar hud arbennig y dref hanesyddol,unigryw hon gan y tywydd gwlyb!




Dydd Llun 9fed

Cychwyn cynnar ar ôl brecwast i Iglesias hyfryd i gamu ar hyd y strydoedd cerrig a’u hymbarels lliwgar uchod a’r siopau atyniadol.  Pryd ysgafn i ddilyn,ac aros wrth ddychwelyd yn Belvedere di Nebida i weld yr ardal gloddio hanesyddol gerllaw. 

Yn ddiweddarach, pryd bwyd llawn yn y Nautilus,a thaith awr i Eglwys Gadeiriol Calasetta ar gyfer y trydydd perfformiad.  Eto, perfformiadau penigamp gan yr holl Gôrau.  Fodd bynnag,cafwyd ymateb hollol drawiadol gan y Gynulleidfa yn sgîl cyflwyniadau Gwalia - codi a churo dwylo llawn emosiwn,dagrau,a chais ‘encore’!

‘Llongyfarchiadau’ mawr i Matthew,Rhian a’r Cantorion i gyd - a gwerthfawrogiad a  chlôd mawr i Craig a Tom,yr unawdwyr!

‘Ben fatto’



Dydd Mawrth 10fed

Cantorion blinedig iawn - ond trefnwyd ymweliad a phryd ysgafn arbennig ar Draeth hyfryd Maldroxia. 

Yna, cychwyn cynnar ar gyfer perfformiad olaf y Côr yn Ogofâu San Giovanni,yn Domusnovas - yn gwisgo ‘helmed’ mewn tymheredd isel - a phryd ysgafn ‘al di fuori’ i ddilyn gyda’r holl Gôrau.  Profiad hollol wych!

‘Diolch’ enfawr i’r holl drefnwyr am y trefniadau anhygoel!

‘Molto grazie a tutti voi’!

Dydd Mercher 11eg

Diwrnod hamddenol,ac ymgynnull fin nos ym Mhiazza Portoscuso mewn crysau Hawaii ar gyfer noson gymdeithasol - bwyd a diod,canu ac hwyl!

Dydd Iau 12fed

Diwrnod hamddenol arall,ac ymgynnull fin nos olaf yn y Nautilus arbennig ar gyfer pryd a chymdeithasu!

Dydd Gwener 13eg

Taith ddychwelyd yn y prynhawn i Abertawe!  ‘Llawer o ddiolch’ Sardinia am brofiadau a chroeso penigamp!

‘Diolch enfawr’ Alan, Matt, Rhian, Lawrence a'r tîm am eich holl waith caled!   Ble mae’r daith nesaf???

Taith i Wlad yr Haf - Sadwrn,Awst 17

Gadawsom Maes Awyr Abertawe am 8:30 y b ar daith i South Petherton, Gwlad yr Haf i ganu ym mhriodas Dan a Helen.  Roedd y lleoliad yn wahanol iawn i’r arfer gan fod y seremoni tu-fas mewn cae!  Fodd bynnag,roedd popeth yn hyfryd,a gwerthfawrogwyd y Côr yn fawr gan y briodferch,priodfab,a’r gwahoddedigion.  Canasom ‘You and me’ gan Lifehouse wrth i’r osgordd briodasol gamu i mewn-rhywbeth a ddysgasom yn bwrpasol i’r achlysur.  Yna,canasom ‘O Gymru’ yn ystod y seremoni ac fe’i gwerthfawrogwyd yn fawr gan y gynulleidfa.  Ar ôl seibiant ar gyfer rhan ffurfiol y briodas,canasom chwech eitem yn ychwanegol o’n portffolio.

Ar ein taith adref stopiwyd yng Ngwesty’r Two Rivers,Cas-Gwent,ac archebu pryd bwyd a diodydd.  Roedd y gwasanaeth a’r bwyd yn dda iawn.  Ar ôl y pryd arweiniodd Nick a’r criw ‘Afterglow’ nifer o ganeuon, a werthfawrogwyd yn fawr gan y cwsmeriaid eraill yn y dafarn.  Cyrraeddasom adref yn y pendraw am 9:30 y h ar ôl diwrnod llawn mwynhâd.

Dechrau cynnar yn yr ‘Hwb’

Ar ddydd Sadwrn,Gorffennaf 13 bu cychwyn cynnar i Gantorion Gwalia gyda’u perfformiad yn agoriad swyddogol yr ‘Hwb’ ym Mharc Underhill, y Mwmbwls.

Croesawodd y cyflwynydd,Kevin Johns ni’n eiddgar a dechreuodd y seremoni tuag 11 y bore.  Roedd rhaid bod seremoni wrth gwrs,sef torri’r rhuban agoriadol i’r Ganolfan-er mwyn cychwyn y ffanffer.

Canasom un o’r hen ffefrynnau ‘Cwm Rhondda’ sy’n adnabyddus a phoblogaidd gan unrhyw gynulleidfa Gymreig.

Tua hanner awr yn hwyrach,ail-ymgynnull mewn pabell fawr,sef pergola agored i ganu rhai caneuon ychwanegol i ddiddanu’r dyrfa.  Mae’r gweithgaredd hwn yn dueddol o fod yn waith caled oherwydd mae’n cynhesu’n eitha’ cyflym a’r sŵn yn amsugno i’r cynfas.Fodd bynnag,ffefryn arall ‘Calon Lân’ ddechreuodd y sesiwn hwn,dewis da-yn ennyn diddordeb yn syth a chreu cymeradwyaeth dda a gwerthfawrogiad.Yna arafwyd y digwyddiadau er dangosodd teulu’r Cantorion a gwylwyr eu gwerthfawrogiad pellach i’r canu da wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen.

Gorffenasom gyda’n hail anthem bellach,sef ‘There is a Land’ gwladgarol ynghŷd â’i diweddglo aruchel sy’n plesio’n fawr.

Pob lwc i’r ‘Hwb’ am ddyfodol llewyrchus.

     

Cerdd Maestro, os gwelwch yn dda! - Dydd Sadwrn,15fed Mehefin,2024, Cyngerdd Blynyddol Cantorion Gwalia yn Eglwys All Saint

Cafwyd cynulleidfa lawn dop, ac yn ôl yr adborth a’r sylwadau, nid dyma’r tro diwethaf!Roedd pawb yn clodfori pob agwedd o’r noson, a methu aros i ddychwelyd am ragor!Dyma’r achlysur cyntaf i’r Llywydd newydd, Peter Lynn, a chafodd groeso cynnes iawn.  Clodforwyd ein Cyfarwyddwr Cerdd, Matthew Sims am ei raglen eang ac amrywiol-yn ogystal â’i dalentau cerddorol a chyfathrebu hyfryd gyda’r gynulleidfa yn hyrwyddo’r difyrrwch.  Yn ôl yr arfer,roedd ein cyfeilyddes anhygoel, Rhian Liles, yn berffaith,ac yn ein harwain ni a’r gantores gwâdd ar hyd y gyngerdd.Roedd pawb wedi dotio ar lais pur talent ifanc arall,Darcey Paris George, a’i pherfformiad hyderus-ac yn sicr,mi fydd yn fwy adnabyddus maes o law.  A dweud y gwir, roedd yn un safon aruchel ar ôl y llall!

Gwnaed sawl cyflwyniad, yr un mwyaf blaenllaw oedd tei gwasanaeth 30 mlynedd i Alan Clewitt,a fu’n Ysgrifennydd am nifer o’r blynyddoedd hynny.  Mwynhaodd pawb y perfformiad cyfan,ac ymatebodd y Côr drwy ganu caneuon hen a newydd â brwdfrydedd ac egni mawr.Y wobr oedd y gynulleidfa’n cymeradwyo eto ar eu traed mewn neuadd orlawn.  (gweler mwy o luniau)