Yn dilyn ein taith i Bruges, cawsom wythnos i ffwrdd o ymarfer, ond yna aethom yn syth i gyngerdd arall yn Eglwys Gatholig y Groes Sanctaidd, Gendros, ddydd Sul y 13eg. Trefnwyd y cyngerdd gan Tony Young ac roedd er budd Sefydliad Hollt y Gogledd, sef elusen a sefydlwyd i leddfu salwch, a diogelu iechyd, pobl dlawd trwy ddarparu llawdriniaeth gwefus hollt a thaflod hollt am ddim mewn gwledydd sy'n datblygu. Ymunodd y soprano, Teresa Hacche, â ni, a chodwyd £560 i'r elusen yn ystod y noson.
Rydym yn falch o allu cyhoeddi bod Tony Brooks wedi pasio ei glyweliad ac wedi ymuno â'r ail adran bas. Dywed ei fod yn mwynhau'r côr yn fawr ac, er nad yw'n gallu darllen cerddoriaeth, ei fod wedi prynu allweddell ac yn cael gwersi, fel y gall ddysgu eitemau'n gyflym. Esiampl wych i bob aelod - hen a newydd!!