Ddydd Gwener Mai 5ed fe wnaethon ni ganu mewn cyngerdd ar gyfer 'Hands Up For Downs', yn yr Eglwys Unedig, Sgetty. Noson hyfryd oedd hon ac roedden ni mor falch o gefnogi'r elusen hon ar gyfer Syndrom Down. Yn perfformio gyda ni roedd yr organydd, Alan Sykes, a oedd yn ddifyr iawn ac a chwaraeodd nifer o eitemau adnabyddus. Codwyd swm o dros £1300 ar y noson, a oedd yn ymdrech aruthrol ac, wrth gwrs, fe wnaethon ni roi ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim.
Ar Fai 19eg fe wnaethon ni ganu yn Eglwys Santes Catrin, Gorseinon, i godi arian ar gyfer organ yr eglwys. Hefyd yn cymryd rhan oedd côr Ysgol Iau Pengelli. Roedd hi'n wych cwrdd eto â Martin Bell, organydd yn Eglwys Santes Catrin, a oedd yn cyfeilio'r côr ychydig o weithiau flynyddoedd lawer yn ôl.
Ar ddydd Gwener y 26ain fe wnaethon ni ganu ym mhriodas Kylie Hearn ac Ian Repath yn eglwys Sant Paul, Sgeti.