Bedydd Merch Alvin Stardust – 2001

Gwahoddwyd Cantorion Gwalia i berfformio ym medydd ail ferch Alvin Stardust, Millie Margaret May. Cynhaliwyd y gwasanaeth mewn plasty Tuduraidd hardd yn Chiddingfold, Surrey.

Roedd llawer o enwogion eraill yn bresennol, fel aelodau Boney M, y DJ Mike Reid a phrif leisydd Procul Harum, Gary Brooker. Tad Bedydd Millie yw Syr Cliff Richard sydd wedi dod yn un o noddwyr y côr ers hynny.