Mae ein hymarferion yn dechrau am 7:00pm ac yn gorffen am 9:00pm. Mae neuadd fawr i ni ymarfer ynddi yn ogystal ag ystafelloedd eraill ar gyfer ymarfer rhannau.
Rydym yn canu rhai o'n caneuon yn y Gymraeg (yn ogystal ag ychydig mewn ieithoedd eraill), ond mae'r rhan fwyaf yn Saesneg. Fel arfer, treulir hanner cyntaf ein hymarfer yn dysgu eitemau newydd; rydym yn galw hyn yn 'nodiadau'. Ar ôl egwyl o bymtheg munud rydym yn tueddu i ymarfer sawl darn o'n repertoire i baratoi ar gyfer perfformiad sydd i ddod.
Mae croeso i chi alw heibio! Mae croeso i bob oed a phob gallu ddod i wrando a/neu ymuno, yn enwedig os ydych chi'n mwynhau canu cymaint â ni!