< Yn ôl i Newyddion

2003

Canodd y côr mewn dau gyngerdd awyr agored yng Nghanolfan Siopa’r Cwadrant yn Abertawe a chodi dros £1,000 ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru.

Cymerodd y côr ran yn eisteddfod Aberteifi am y tro cyntaf ers blynyddoedd lawer ond ni lwyddodd i ennill y lle cyntaf.

Rhoddwyd sawl cyngerdd ar gyfer Cymorth Cristnogol yn Eglwys Bedyddwyr y Mwmbwls, Eglwys Clun ac yn Orendy Margam.

Cynhaliwyd y Cyngerdd Blynyddol yn Eglwys y Santes Fair ac roedd yn cynnwys Côr Ysgol Talycoppa a dau gerddor ifanc talentog – Lawrence Mann ar y recorder ac Arabella Corkhill ar y sielo. Brian Sullivan oedd arweinydd y cyngerdd.

Penodwyd Mal Pope – canwr a chyfansoddwr caneuon lleol – yn Llywydd ar ôl marwolaeth annhymig y Llywydd blaenorol, y Cynghorydd Tyssul Lewis, a oedd wedi gwneud cymaint i’r côr dros nifer o flynyddoedd.

Cynhaliwyd y Cinio Dawns Blynyddol yng Nghlwb Golff Gŵyr.

Mwy o Newyddion a Chyhoeddiadau

Ymunwch â'n Côr!

Profwch y cyfeillgarwch a'r cytgord drosoch eich hun. Rydym bob amser yn chwilio am leisiau newydd.