I ddarllen fersiwn Saesneg
o'r newyddion cliciwch
yma
Diwrnod prysur
iawn - Dydd Sadwrn,
Mawrth 2, 2024.
Roedd yn anarferol iawn i ni
gymryd rhan mewn dau ddigwyddiad yr un diwrnod ond dyna
a fu.Dechreuasom â
chyngerdd amser cinio yng nghanol Marchnad
Abertawe fel rhan o’u dathliad
‘Croeso’ dau ddiwrnod ar Fawrth 1af ac 2ail.Casglodd
tyrfa fawr wrth i ni eu diddanu
am dros hanner awr.Canasom rhai pethau traddodiadol
Cymreig -’Calon Lân’, ’Cwm
Rhondda’, ’Y Darlun’, ’O Gymru’, a’r Anthem
Genedlaethol. Canasom hefyd rhaicaneuon o’n
rhaglen arferol ‘There is a
Land’ - cân hyfryd am ‘wlad y gân, ’The Impossible
Dream’, ’One Day I’ll Fly
Away’, a ‘Can’t Take My Eyes Off You’ - a dyma’r
gynulleidfa’n ymuno.Mwynhaodd y
gynulleidfa a’r gwerthwyr stondinau’r canu’n fawr iawn.
Yr ail ddigwyddiad oedd
cyngerdd elusennol ar gyfer Grŵp Codi Arian ‘Marie
Curie,y Mwmbwls a Gŵyr.Roedd
hon gyda’r hwyr yn Eglwys All Saints,
Ystumllwynarth. Roedd yr Eglwys yn
llawn, a’r gynulleidfa wrth eu bodd.Perfformiodd y Côr
ddau sesiwn yn y ddau
hanner, a Matthew Sims,ein Cyfarwyddwr Cerdd yn canu
unawdau rhyngddynt, a Daniel
Davies, un o’n tenoriaid gorau yn yr ail hanner.
Ail-adroddwyd yr holl ganeuon a
ganwyd yn gynt yn y dydd yn y Farchnad, ond ychwanegwyd
‘What Would I Do Without
My Music’, ’You Raise Me Up’, ’Benedictus’, ’Three Times
A Lady’, ’You Are So
Beautiful’, a ‘If We Only Have Love’. Gobeithiwn
fod y Gyngerdd wedi codi arian
sylweddol i’r elusen ‘Marie Curie’ haeddiannol iawn.
Ail-ddechrau hapus! - Dydd Sadwrn, Chwefror 24, 2024
Ie,ail-ddechrau hapus ar ganu arferol y Côr,
dychwelasom i Eglwys San Paul yn y Sgeti, ac i
arweinyddiaeth Nick Rogers gan fod ein Cyfarwyddwr Cerdd,
Matt i ffwrdd ar fusnes-ac roeddem wrth ein bodd gyda
dychweliad ein cyfeilyddes wych Rhian ar ôl salwch byr,
diflas.
Roeddem ym mhriodas Jessica a Jamie, a
darparwyd trefniant addas-, ac fe’i werthfawrogwyd gan y
gynulleidfa cyn mynediad y briodferch.Wrth iddi gamu i
lawr yr Eglwys canasom y ‘Benedictus’ tyner, cyn symud
n’ôl i’n seddau ar gyfer yr emynau cynulleidfaol, a’r
gwasanaeth ei hun.
Dychwelasom i’r blaen wrth i Jessica a Jamie arwyddo’r
gofrestr, a chanasom rhagor o’n rhaglen adnabyddus, ac
yna’r eitem ‘orymdeithiol’ ‘Can’t Take My Eyes Off You’.Yn
ôl yr ymateb llawen ac, yn wir, y gynulleidfa’n ymuno,
oedd hwn yn boblogaidd tu hwnt ac yn ddiweddglo pwrpasol
i’r digwyddiadau.
Diolch i’r briodferch a’r priodfab, a’n
dymuniadau gorau i’r dyfodol-ac rydym yn hapus i atgoffa
pawb ein bod yn perfformio ddwywaith ddydd Sadwrn, Mawrth
2.Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi byddwn ym Marchnad
Abertawe, amser cinio-ac yna, un o’n hoff gynherddau
blynyddol, yn All Saints, y Mwmbwls, ar gyfer Cyngerdd
‘Cenhinen Pedr’ Marie Curie, yn yr hwyr.
Rydym ni n’ôl!
Ein cyngerdd Nadolig
olaf
I’n cyngerdd Nadolig olaf
ar Ragfyr 19eg cawsom ein hymweliad blynyddol â Neuadd
Vivian, Blackpill.Cyngerdd elusennol yw hon i godi arian
i’r Neuadd.Mae wystod yn gyfyng ond yn gyngerdd
ymlaciedig iawn a chenir peth o’n rhaglen arferol a rhai
carolau Nadolig.
Un o uchafbwyntiau’r noson oedd Daniel, un
o’n cantorion yn canu ‘This is the moment’ o Jekyll
&Hyde.Canasom hefyd nifer o garolau ynghŷd â’r
gynulleidfa–yr uchafbwynt mwyaf ‘Twelve Days of Xmas’
bywiog tu hwnt!
Ar ôl y gyngerdd aeth
rhai o aelodau’r Côr i’r dafarn am beint neu ddau a mwy
o ganu!
John Moses
Tristwch o’r mwyaf yw
cyhoeddi marwolaeth John Moses ar Ragfyr 10fed wedi
salwch byr.
Estynnir pob cydymdeimlad â’i wraig Brenda, a’i deulu
oll.Roedd John yn aelod pwysig adran Fâs y Côr am bron
30 mlynedd, ac yn aelod oes.Gwasanaethodd fel aelod pwyllgor
ac ysgrifennydd, rhagflaenydd Alan.Cofier ef fel gŵr
bonheddig, a gwelir ei eisiau’n fawr gan ei ffrindiau
niferus yn y Côr.
Canu gyda’r Gwragedd
Ar ddydd Gwener, Rhagfyr 15fed
roedd y gyngerdd yn Eglwys San Samlet yn llwyddiant mawr
gyda chanu soniarus, brwdfrydig y Gwragedd Excelsior
ynghŷd â harmoni cryf Cantorion Gwalia. Roedd gan y ddau gôr raglen anhygoel-yn
enwedig y ddwy gantores Excelsior Stephanie Gardner a
Bethan Osmundsen yn canu unawdau, y ddwy’n hyfryd-ond
pan gyfunodd y ddau gôr i ganu ‘Benedictus’, roedd mor
ysbrydoledig, a chafwyd acwsteg aruchel. Da iawn y ddau gôr am
berfformiad gwych a noson o fwynhâd, yn ogystal â chodi
arian i Eglwys San Samlet.
Bonws
Nadolig!
Yn
sgîl ein Cyngerdd Pwyllgor y Gwragedd roedd hon yn
dilyn patrwm cyffelyb mewn sawl ffordd heblaw fe’i
chynhaliwyd unwaith eto yn Eglwys hyfryd All Saints,
Ystumllwynarth, ac ar gyfer Elusen Gancr deilwng
Maggie’s-ynghŷd â Band Pres Tref Pontarddulais.
Ar ôl y garol
gynulleidfaol agoriadol perfformiodd y Band, ac
roeddem yn rhyfeddu-mor dda!Yn wir, roedd hwn yn
berfformiad anhygoel!Yn ffodus, roedd y Côr ar ei orau
hefyd ac yn blêsd yn yr egwyl.Cyn i’r rhaglen barhau,
plesiodd y tenor, Daniel unwaith eto â’i berfformiad o
‘Bring him home’
Dechreuodd y Band
yr ail-hanner gyda chyfres o drefniannau Nadoligaidd,a
dychwelodd y gwŷr(a Rhian wrth gwrs) i ganu rhai
carolau hyfryd-gan gynnwys yr addfwyn ‘O Holy Night’
a’r ‘Rocking around the Christmas tree’ bywiog a churo
dwylo, gan ymuno ynghŷd ar gyfer cân Jonah Lewie’Stop
the Cavalry’-a phawb ar eu traed yn cymeradwyo’r
noson.
Fodd bynnag,
penderfynodd y Band gyflwyno encôr â ‘Rudolph the
Red Nose Reindeer’ a fwynhawyd gan bawb yn
hwylus.Roedd wir yn noson hyfryd o hwyl a
cherdd. (Gweld mwy o luniau)
Da
iawn,ferched!
Unwaith eto ar Ragfyr 5ed bu gwragedd
gweithgar, arbennig y Pwyllgor yn darparu ar gyfer y
gyngerdd Nadolig draddodiadol yn y Neuadd ‘Scout and
Guide’, Bryn Road.Gwnaethpwyd llawer o waith yn y
prynhawn ymlaen llaw, ac yn ystod y gyngerdd i sicrhau
noson arbennig, a’r elw at achos y ‘Groes Goch’
Dechreuodd y rhaglen gyda chymysgwch o’n
caneuon traddodiadol yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe’u
gwerthfawrogwyd yn fawr gan gynulleidfa dda.Cyn yr egwyl
cyflwynwyd rhai cantorion â theis ‘carreg-filltir’, yr
un mwyaf nodedig i Len Fuge am wasanaeth 30 o
flynyddoedd.Pleser arbennig, pwrpasol oedd cyflwyniad
i’n hannwyl gyfeilyddes anhygoel Rhian Liles.Mae 25
mlynedd yn amser hir i ymdopl â chriw o ddynion bywiog,
mae wir ‘werth y byd’!
Yn ystod yr egwyl diddanwyd pawb â pherfformiadau unigol
ein Daniel Davies ni, a’r Cyfarwyddwr Cerdd Matthew
Sims.Dychwelodd y Côr i ganu rhaglen o garolau a
chaneuon Nadolig.Yna cafwyd lluniaeth a baratowyd gan y
gwragedd, ac i ddilyn cyfnod hwylus dros ben o ganu
carolau traddodiadol, y Côr a’r gynulleidfa ynghŷd-ac i
orffen y ffefryn sbortlyd ‘Twelve Days of Christmas’
Edrychwn ymlaen nawr at yr ail gyngerdd
Nadolig, ac achos ‘Maggie’s’ yn Eglwys All Saints,
Ystumllwynarth ar ddydd Iau, Rhagfyr 7fed ynghŷd â Band
Pres Tref Pontarddulais. Da iawn y gwragedd am drefnu noson
Nadoligaidd, agoriadol mor arbennig! Nadolig Llawen i chi gyd! (Gweld mwy o luniau)
Dechreuad cynnar o Abertawe ar gyfer
Heathrow. Popeth yn drefnus a phleserus-ond
ergyd fawr i’r Cadeirydd Richard fynd yn sâl yn y
maes-awyr. Dymunwn adferiad buan iddo!
Taith awyren fer i Frankfurt, a derbyn
croeso twymgalon gan ein tywyswyr hyfryd o Gôr
Teutonia, ac amlinelliad o’r trefniadau.
Cofrestru chwim yn y Best Western Plus,
Mannheim, a chafwyd amser rhydd weddill y noson i
giniawa, cymdeithasu-a rasio ‘sgwteri’ ar y strydoedd
cyfagos (gweler y
fidio!)
27/10
Brecwast cynnar i’r mwyafrif!-a dechreuwyd
y gweithgareddau am 10.15 y b gydag ymweliad â Bad
Dürkheim, ardal tyfu gwin enwog y Palatinate.
Cawsom dderbyniad Sekt/Champagne i gychwyn yn yr
‘Wrsmarkt’ hanesyddol, ac yna rhannwyd ni’n ddau grŵp
ar gyfer y ‘Daith Halen’ a’r Winllan. Profiadau
anhygoel, a llawn mwynhâd.
Cafwyd picnic wrth ein boddau amser cinio a
chyflwyniad profi gwin penigamp yn y Bad Dürkheim Fass
mawreddog fin nos. Cwbwlhawyd diwrnod hollol
arbennig â phryd tri-chwrs-lletygarwch anhygoel!
Bydd Neil siwr o gofio’i ddathliad penblwydd 68!
28/10
Bore a phrynhawn cynnar hamddenol, ac
yna’r cantorion yn ymadael i’r Kulturhalle, Feudenheim
ar gyfer ymarfer cyngerdd, y gwragedd yn eu dilyn
hanner awr yn hwyrach.
Roedd noson arbennig o’n blaenau!Roedd yr
areithiau croeso gan Gadeirydd Côr Teutonia Dieter
Kern a’r Dirprwy Faer ynghŷd â’r cyfieithiadau yn
hollol ddiffuant yn nodi’r blynyddoedd o gyfeillgarwch
a chyfathrebu a fu rhwng y ddau gôr-ac,unwaith eto,
cadarhawyd y cwlwm cyfeillach rhwng Mannheim ac
Abertawe. Dyrchafwyd y ddwy faner genedlaethol
wrth i ni ganu’r Anthemau.
Roeddem wrth ein boddau wedyn yn clywed
Côr Cymysg Teutonia yn cychwyn y gyngerdd â’u caneuon
melodaidd, ac aelodau ifanc y Tea Tones a’r Tea Tonies
yn eu dilyn â’u canu swynol.
Roedd canu Cantorion Gwalia yn hyfryd yn
eu hanner cyntaf, a’r caneuon pŵerus ‘O Gymru’ a
‘There is a Land’ yn ennyn cymeradwyaeth
ysgubol. Gwerthfawrogwyd cyflwyniadau Nigel yn
yr Almaeneg yn fawr iawn.
Dechreuwyd ail-hanner rhaglen Gwalia gyda
‘Muss I Denn’, a bu cryn dipyn o ansicrwydd ynglŷn â’r
ynganu a. a ymlaen llaw-ond fe’i derbyniwyd a’i
gwerthfawrogwyd yn llawn.
Gorffennwyd y rhaglen gan y ffefryn ‘If we
only have love’, a’r Almaenwyr ar eu traed yn bloeddio
‘mwy’!Felly, canodd y Gwalia ‘Muss I Denn’ unwaith
eto, a’r Almaenwyr yn ymuno. Yn ogystal, canodd
y Cyfarwyddwr Cerdd Matthew Sims un o’r hoff unawdau
‘Stars’ Les Misèrables-ac yn wir diweddwyd y noson yn
aruchel!Perfformiad clodwiw gan Matt-a’r holl neuadd
yn dangos eu cymeradwyaeth frwdfrydig!
Parhaodd y lletygarwch caredig â bwffe a
diodydd blasus, a’r ffrindiau Almaeneg yn awyddus i
gymdeithasu a mwynhau gyda ni oll. Noson wir
fythgofiadwy!
29/10
Dechreuad cynnar iawn ar gyfer y
Johanneskirche yn Freudenheim, ac anrhydedd mawr i’r
Côr gymryd rhan yng ngwasanaeth yr Eglwys.
Safasant (bron
i gyd yn eu gwisgoedd Côr llawn!) yng nghysgod
hyfryd y ffenestri gwydr lliwgar a goleuni’r
canhwyllau ar flaen yr Eglwys. Roedd gwrando
ar ‘Sanctus’, ’Y Darlun’, ’Cwm Rhondda’, a
‘Benedictus’ yn hollol wefreiddiol, ac fe’u
gwerthfawrogwyd yn fawr iawn gan yr aelodau.
Atgyfnerthodd y sain chwarae soniarus Rhian ar y
piano a chanu melodaidd y Côr.
Ymweliad â Heidelberg yn y prynhawn i
fwynhau’r lleoliad hyfryd wrth yr afon a’r castell
panoramig ar gyrion y dref.
Gobeithio i Roger fwynhau’i ddathliad
penblwydd 66 hefyd!
30/10
Bore hamddenol ac ymweliad prynhawn cynnar
â Chapel urddasol Palas Mannheim lle ymgeisiodd Mozart
ymuno â Cherddorfa’r Sovereign Elect. Capel
godidog ac arlunio storïau Beiblaidd trawiadol ar y
nenfwd-a sain unigryw!
Ar ôl derbyniad caredig Sekt/Champagne eto
gan Gôr Teutonia, gwahoddwyd Cantorion Gwalia i ganu
tair cân hunan-ddewisol yn ddigyffaeliad. Roedd
yr harmonïau a’r canu cerddorol yn amlwg yn y lleoliad
anhygoel!Profiad arbennig!
Ar ôl gweld y Gladdgell-gadawsom am Mayer Bräuerei,
Ludwigshafen, taith bracty diddorol a samplu sawl cwrw
lleol. I goroni’r diwrnod cafwyd bwffe hyfryd
drwy garedigrwydd Côr Gwalia, ac roedd yn drist
ffarwelio â’r ffrindiau Teutonia-ond datganwyd yn
barod y byddant yn ynweld ag Abertawe yn 2025!
31/10
Cyrhaeddwyd n’ôl yn saff yn
Abertawe. Amser adferiad ar ôl taith arbennig!
‘Danke’ i Gôr Teutonia a Mannheim am eu
lletygarwch anhygoel-a diolch enfawr i Rhian, Matt,
Alan, Lawrence a’r tîm am eich holl waith caled!
Ble a phryd yw’r daith nesaf??
Taith Briodas
Iwerddon
Cwrddasom ym maes awyr
Abertawe am 10 y b, ddydd Mercher, Hydref 11eg, ac
aros yn amyneddgar am y bysiau. Oediad o hanner
awr, ac yna casglasom ddau o’r cantorion(Matt a Rhian)
ar y ffordd i Aberdaugleddau. Yn ffodus,
cyrraeddasom y porthladd fferi mewn da amser.
Archwiliwyd rhai trwyddedau teithio, ac yna croesi
draw i Rosslare heb unrhyw broblem, er tybiwyd bod un
o’r cantorion ar fin ymdrochi yn y môr! Yna stopio yn
Nhafarn Jack White yn Wicklow, ac edrych ymlaen at
bryd 3-chwrs. Yn anffodus, oherwydd
camddealltwriaeth, gorfod i ni symud ymlaen i Ddulyn i
Dafarn Searsons am fwyd a diod. Yn y pendraw,
teithiasom i Westy Ballymascanlon yn Dundalk.
Darparwyd brecwast y bore canlynol, a
chafwyd bore rhydd i fwynhau adnoddau’r gwesty.
Aethpwyd â ni i Eglwys St. Peters yn Dromiskin, County
Louth, ar brynhawn heulog. Cawsom ymarfer byr,
ac yna’n barod i’r briodas. Y côr a ddarparodd
yr holl fiwsig (Cwm Rhondda, Calon Lân, a You Raise Me
Up) heb unrhyw emynau
cynulleidfaol. Gorfod i ni ganu o’n seddau, ond
tybiwyd bod y gynulleidfa’n mwynhau’r
perfformiadau. Er mai dim ond 26 o gantorion
oedden ni, canasom yn frwdfrydig.
Ar
ôl y lluniau symudasom i’r derbyniad a gynhaliwyd yng
Nghastell mawreddog Bellingham. Canasom nifer o
ganeuon wrth i’r gwahoddedigion gyrraedd a
gwerthfawrogwyd hwy’n fawr(Cwm Rhondda, You
Are So Beautiful, What Would I Do Without My Music,
Three Times A Lady and If I Can Dream).
Yna, cawsom bwffe brechdanau a chwrw. Yn y
pendraw aethon ni n’ôl
drachefn i’r gwesty am bryd 3-chwrs. Yn
anffodus, roedd y bar agosaf tua awr o wâc i ffwrdd,
felly, mwynhasom y canu a diddanu’r cwmni yn y
‘Terrace Bar’.
Ar fore Gwener,cawsom frecwast cyn
teithio ar y bws i borthladd fferi Dulyn. Y tro
hwn, croesasom i Gaergybi yn Sir Fôn. Ar y
ffordd n’ôl i Abertawe stopiwyd am amser byr yn y
Cross Guns ym Mhant,ger Croesoswallt. Mwynhasom
ddiod a bwyd, a chyn ymadael canasom rai caneuon dan
arweinyddiaeth Nick.
Mawr ddiolch i Gareth Widlake, yn
benodol, yn ogystal â gweddill y tîm Cerdd am daith
byr ond llawn mwynhâd. Diolch hefyd i Bob
Walters, swyddog y bws, a Chris Bickford fel
ffotograffydd.
Sláinte!
Pethau
Mawrion-Mewn Pecynnau Bach
Dydd Gwener, 15fed o
Fedi, 2023. Cyngerdd gyda Chôr Moushole yn
Eglwys Sant Paul, y Sgeti.
Am noson anhygoel o
adloniant! Beth gallasai ei gwneud yn well? Lleoliad
tipyn mwy! Dau gôr arbennig yn ymuno ar gyfer
perfformiad bythgofiadwy. Er i aelodau’r côr gyrchu
cadeiriau ychwanegol o Neuadd yr Eglwys, roedd bron yn
amhosib i’r Eglwys llawn gynnal y noson hyfryd.
Roedd pawb wrth eu boddau
gyda Chôr Mousehole( a ynganir yn ‘ Mouzle’!) ar eu
gorau gyda rhai caneuon ardderchog Rhanbarth y ‘West
Country’ yn ogystal â pheth mwy traddodiadol, a chanu
annisgwyl ein ‘Calon Lân’ ni. Canodd y Gwalia
gymysgwch o felodïau Cymreig ac eraill. Ar ôl
cymysgwch canmoladwy o felodi, ymunodd y ddau gôr
gyda’i gilydd yn y pen draw gyda’r emyn hyfryd ‘Morte
Christe’( ynghŷd â phennill unigol swynol gan y
Cyfarwyddwr Cerdd Matthew Sims) a datganiad ysgytwol
terfynol o’r ‘American Trilogy’. Yn ôl yr arfer,
roedd Rhian ar ei gorau, a’r cyfeilydd gwâdd yn
arddangos yr un dalent aruchel.
A’r hynoedd yn
weddill oedd yr anthem Gernyweg enwog ‘Trelawney’ ac,
wrth gwrs, ’Hen Wlad Fy Nhadau’. Aeth y
gymeradwyaeth ymlaen ac ymlaen. Cadarnhawyd ein
cyfeillgarwch eto gyda’r gwŷr arbennig hyn o Gernyw,
a’r unig drueni gyda dros 100 o leisiau’n cyfrannu
oedd dylsai’r lleoliad fod llawer yn fwy. Diolch
Mousehole-a diolch eto i gynulleidfa werthfawrogol tu
hwnt.
Noson Lawen,
yn bendan!
Roedd nos Sul, Gorffennaf 16eg yn noson
anarferol a llwyddiannus dros ben ym mhentref bach
Llanarthne lle’n gwahoddwyd ni i ganu er lles Elusen
Prostate Cymru, ac ymateb i gais teulu’n cyfieithydd
anhygoel Rhian.
Dechreuasom drwy ganu pedair cân
Gymraeg-dwlu arnynt fan hyn wrth gwrs-ac yna unawdau gan
ein Cyfarwyddwr Cerdd Matthew,a’r seren
ifanc, y tenor Dan Davies, a’i gyflwyniad ‘Bring Him
Home’ yn tynnu dagrau’r gynulleidfa.
Roedd y gynulleidfa’n dwymgalon eu
gwerthfawrogiad drwy gydol y perfformiad wrth i’r Côr
gyferbynnu caneuon ysgytwol ynghŷd â melodïau tyner,
soniarus.
Cafwyd ymateb rhagorol yn yr ail hanner,
ac unawd arall gan Dan, ac yna dynes dalentog, ddoniol
â’i hadnabu fel Nia ‘drws nesa’, ffefryn lleol.
Gorffennwyd y gyngerdd arbennig gyda
chydnabyddiaeth y gynulleidfa ar eu traed, a pharhaodd y
Côr â’u diddanu i ddiweddu’r noson.
Noson hapus iawn, a gobeithio dychwelyd
yno yn y dyfodol. Diolch yn fawr, Llanarthne!
'Penblwydd
Hapus' Tegwen!
Roedd
yn newid mawr ac yn bleser i ni gael gwahoddiad i
Dewsall Court yn Swydd Henffordd ar ddydd Mawrth,
Mehefin 20fed ar gyfer perfformiad parti penblwydd
Tegwen yn 95. Gan i ni berfformio ar gyfer ei 90,
ystyrion ni hwn fel clôd arbennig, a chymerasom 40 o
gantorion i’r achlysur.
Yn sgîl dechreuad araf aeth y bws dros Heol y Cymoedd,
yr A465 ynghŷd â’r cylchdroadau niferus cymhleth dros
dro, a chyrraeddasom yn hwyrach na’r disgwyl. Fodd
bynnag,aeth y gyngerdd yn ei blaen o dan oruchwyliaeth
Nick Rogers a Gareth Widlake yn cyfeilio’n
hyderus. Ar ôl canu ‘Penblwydd Hapus’ yn
ddwyieithog, cyflwynwyd Tegwen â charden a llun
Cantorion Gwalia. Rhoddodd araith byr, bywiog, ac
roedd y gerddoriaeth wrth fodd pawb.
Roedd yn ddiwrnod hir, ac aros yna am fwyd a chanu ar y
ffordd n’ôl gyda rhai oediadau eraill-ond gobeithiwn yn
fawr y byddwn yn canu eto ymhen 5 mlynedd ‘Penblwydd
Hapus’ wrth Gantorion Gwalia.
Petea
Carlsberg Yn Gwneud Cyngherddau....
Roedd disgwyl
mawr i’n Cyngerdd Flynyddol ar ddydd Mawrth, Mehefin
17eg, yn Egwys All Saints, Y Mwmbwls, ac roedd
ymateb y gynulleidfa llawn yn wir anhygoel!Roedd y
rhagen eang yn cynnwys nifer o’r hen ffefrynnau a
mawrion, wrth gwrs, ond cyflwynodd ein Cyfarddwwr
Cerdd Matthew Simms nifer o eitemau newydd, gan
gynnwys, y weddi Gymraeg ‘Y Darlun’ a’r felodaidd
‘To Where You Are’. Roedd ein dilynwyr pybyr
wrth ei bodd â’r
gyngerdd
radd-flaenaf, a heb amheuaeth, gŵyr
cefnogwyrnewydd
bellach pam bod Cantorion Gwalia yn gôr
ar dŵf
o ran niferoedd a bri.
Roedd ein
perfformwyr ifainc gwâdd,
y
tenor Harri Morgan a’r soprano Kathryn Forrest wedi
diddanu pawb â’u
perfformiadau
safon aruchel, ac yn adloniant anhygoel, ac roedd
ein cyfeilydd gwâdd
Jeffrey
Howard yn hollol berffaith yn ôl yr
arfer. Yn ogystal, roedd ein Rhian arbennig
ni’n arddangos pam allwn ni fyth â`i
chyfnewid! Hefyd roedd ein hunawdydd ni Daniel
Davies yn bleser anhygoel ychwanegol i’r
gynulleidfa, ac yna mwynhasom ddawnsio traddodiadol
hyfryd merched ifainc yr Wcrain – a sicrhaodd
gasgliad sylweddol at yr elusen honno.
Yn
ystod y noson cyflwynwyd teis gwasanaeth hir i’r
Cantorion;
30 mlynedd - John Davies, 25 mlynedd - Lawrence Sutton a Pip
George,
15 mlynedd - Walter Jones a Walter Carey,
a 5 mlynedd - John Ashmole, Steve Barker, Bill
McCarley, Keith Riley a Gareth Widlake.
Llongyfarchiadau iddynt oll.
Wrth gwrs,
diolch o galonMatthew am ei arweiniad brwdfrydig a`i
gyfraniad unigol gydag ambell bennill yma ac acw. Ar
ddiwedd y noson, canodd yr holl Eglwys yn galonnog
i’r Anthem Genedlaethol. Roedd yn noson eithriadol o
fendigedig fel y nodwyd gan nifer o bobol. I weld mwy o luniau cliciwch
yma.
Rhan o
ddiwrnod perffaith
Ar ddydd Gwener,
Mehefin 2, 2023, canodd Cantorion Gwalia ym mhriodas Ian a
Rebecca yn Eglwys St Catherine’s, Gorseinon. Roedd y
tywydd yn fendigedig, awyr las, ddi-gwmwl, a’r priodfab
a’r briodferch yn ôl y Parch Adrian Morgan yn hynod o
drwsiadus. Perfformiasom pedair cân wrth i’r
gwahoddedigion gyrraedd, ac yna symudasom i’r ochr i greu
lle ar gyfer y seremoni briodasol.
Roedd y briodferch
ychydig yn hwyr yn ôl traddodiad, a chawsom ysbaid byr cyn
canu ‘You Are So Beautiful’ wrth i Rebecca gerdded lawr yr
Eglwys. Roedd hi mor brydferth.
Yna eisteddodd y
Cantorion yn y seddau wrth i Ian a Rebecca dyngu llw.
Cyhoeddwyd eu bod yn ŵr a gwraig, a mynegodd y Parch
Morgan gyngor priodasol call wrthynt. Symudodd y Cantorion
yn eu hadrannau priodol i’r ochr i ganu tra bod y pâr yn
llofnodi’r gofrestr. Symudiad hwylus ar y cyfan gan fod
pawb yn gymysg yn y seddau. I orffen canasom ‘Can’t take
My Eyes Off You’ wrth i Ian a Rebecca gerdded allan o’r
Eglwys i’w bywyd priodasol newydd. Nododd Matthew Simms, y
Cyfarwyddwr Cerdd yn ei werthusiad bod y perfformiad yn
‘dderbyniol’.
Edrych
YmlaeAnrhydedd o'r mwyaf amy gwahoddiad!
Gan fod Clwb Rygbi
Abertawe(YGwynion) yn dathlu 150 mlynedd o
chwarae,dewisasant yr Arena newydd argyfer y cinio ac
achlysur arbenniggyda nifer o enwogion yn mynychu ac yn
cyfrannu i'r adloniant.Felly roedd yn falchder mawri Gantorion
Gwalia gael gwahoddiadi gychwyn y digwyddiadau. Dechreuasom drwy.ganu wrth y
Fynedfa ble roedd y gwahoddedigion yn cyrraedd, aci nife
ohonom roedd yn gyflei adnabod nifero ser o'rgorffennol
a'r presennolyn eu gwisgoedd trwsiadus priodol.Yna
symudasomi'r Llwyfan, acaröl ychydig oedi, cawsom sylw
gofalusy gynulleidfa wrthini ganuCwm Rhonddai
gymeradwyaeth gyffrous, acyna arweiniasomgyda'r Anthem
Genedlaethol. Roedd hwnyn anrhydedd priodol
i'r Cor syddyn tyfu'nfwyfwy poblogaidd-a'r niferoedd hydat
60 ar y Llwyfan yn adlewyrchu statws cör safonol
haeddiannol yn yr ardal.Edrychwn ymlaenyn awr gyda
brwdfrydedd eiddgar at ein Cyngerdd Blynyddol yn Eglwys
All Saints Y Mwmbwls ar Fehefin 17fed. Bydd ynnoson
eithriadol!
Buddugoliaeth Gartref
I Gantorion Gwalia, mae
eglwys hyfryd yr All Saints yn
Ystumllwynarth yn un yr ydym yn ei
hystyried yn 'gartref'. Rydym wedi cynnal
llawer o gyngherddau yma a bydd ein
Cyngerdd Blynyddol ar 17 Mehefin yma eto.
Gyda chynhwysedd mawr, acwsteg ardderchog
a chyfleusterau gwych, mae hwn yn lleoliad
o'r radd flaenaf. Hefyd yn 'gartref' i ni
yw'r elusen ardderchog Marie Curie, un o'n
grwpiau o ffrindiau sydd wedi hen sefydlu.
Felly, ar 11 Mawrth, pan oedd
buddugoliaethau 'Oddi-cartref' yn duedd (i
Gymru a Ffrainc o leiaf), roedd yn flas
melys o lwyddiant cartref yn wir. Er
gwaethaf Covid a gwrthdyniadau eraill,
perfformiodd dros 50 ar y llwyfan ac am
noson oedd hi! Roedd y côr yn canu’n wych,
daeth y Cyfarwyddwr Cerdd Matthew â'r
gorau allan o bawb (yn ogystal â
pherfformio pennill unigol poblogaidd ei
hun), roedd Rhian yn wych ar y piano, fel
arfer, a Gareth yn wych ar y feiolin ar
gyfer y ddwy gân sefydledig. Yn ogystal,
chwaraeodd y sacsoffonydd lleol, Mick Luck
gwpl o sesiynau cain gyda cherddoriaeth
esmwyth.
Daeth y noson i ben gyda'r
gynulleidfa fawr yn rhoi cymeradwyaeth
sefyll ac yna'n aros yn sefyll i ymuno â'r
Anthem Genedlaethol, gan gynnwys y
llinellau olaf o dan gyfarwyddyd Matt,
wrth gwrs - cyn y gytgan olaf gyda
chyfeiliant y côr. 'Buddugoliaeth gartref'
heb os a gobeithiwn am sawl ganlyniad
tebyg yn y dyfodol! Cododd y noson y swm
mawreddog o £2652 ar gyfer yr
elusen. Diolch i bwyllgor Marie
Curie am drefnu noson mor hyfryd
Diwrnod yn y Rasys
Fe
wnaeth ddydd Sul, 5 Mawrth ein cyflwyno ni i fath o
leoliad newydd a diddorol. Tra bod ffilm y Brodyr Marx
o'r enw A Day at the Races yn gomedi enwog,
roedd ein profiad yn 'ddoniol' mewn ffordd wahanol! Er
gwaethaf byr rybudd, bu agos i 40 o'n band garw wneud eu
ffordd i gae rasio Ffos Las i gymryd rhan mewn diwrnod
'Balch o fod yn Gymro'. Buan y gwnaethom ddarganfod bod
mwy na clwydi i'w goresgyn!
Diolch
byth nad oeddem, fel yr awgrymwyd yn wreiddiol, yn canu
yn yr awyr agored oer ger y gatiau, cawsom ein hunain y
tu mewn i un o'r bariau, gan sylweddoli ar unwaith fod y
nenfwd isel wedi'i orchuddio â theils polystyren, yn
wych ar gyfer tawelu sain. Mae unrhyw far yn rhoi
gwrthdyniadau eraill; sŵn archebu diodydd, sgyrsiau uwch
ac ati, ac yn yr achos hwn, cyfeiliant cerddoriaeth
bibellog i dynnu sylw oddi wrth ein canu. Fe wnaethon ni
ddyfalbarhau a chanfod nifer o bobl yn talu sylw ac yn
cymeradwyo mewn gwerthfawrogiad. Wrth symud i'n ail far,
daethom o hyd i acwsteg ychydig yn well, ond y tro hwn,
roeddwn yn cystadlu gyda system uchelseinydd y cae
rasio.
Fodd
bynnag, parhaodd y bechgyn gan 'gerdded drwy'r storm' i
haeddu rhywfaint o gymeradwyaeth a sylwadau canmoladwy
gan rai o’r bobl a oedd yn bresennol. Y cyfan y gallwn
ei ddweud oedd ei fod yn brofiad newydd ac fe wnaethom
oroesi, lledaenwyd ein henw ymhellach a gwnaethom o
leiaf rai ffrindiau newydd. Ymlaen i'r nesaf yn benuchel
Serendipedd
Yn gyffredinol, mae serendipedd yn golygu
canfyddiad siawns o lwc dda. Fodd bynnag, roedd yn fwy
na lwc, flwyddyn yn ôl ar 22 Chwefror 2022, bod y côr
rhagorol hwn wedi cwrdd â Matthew Ioan Sims.
Cymerodd ddau ymarfer yn unig i'r bechgyn ei
bleidleisio fel ein Cyfarwyddwr Cerdd newydd. Am
flwyddyn rydym wedi mwynhau ers hynny!
Edrych
Ymlaen.
Mae
Cantorion Gwalia yn tynnu’n groes i'r duedd ac yn mynd
o nerth i nerth pan mae llawer o gorau yn lleihau o
ran maint ac yn lleihau eu llwythi gwaith. Mae gan
Matthew, ynghyd â'n tîm cerddoriaeth o'r radd flaenaf,
yr hyfryd Rhian fel pianydd a chyn Gyfarwyddwr Nick
Rogers, y cyfeilydd cynorthwyol Steve Wilson a'r
feiolinydd Gareth Widlake, gynlluniau a fydd yn symud
y côr ymhellach fyth ar hyd y ffordd i lwyddiant. Yn
naturiol, mae'r cynlluniau hynny'n cynnwys parhad ein
llwybr i berfformiad gorau. Mae gennym ddyddiad
anarferol iawn ar gyfer Mawrth 5, canu ar gae rasio
Ffos Las, yna yn ôl i'n lleoliad rheolaidd yn All
Saints ar gyfer Marie Curie. Bydd yr un lleoliad yn
cael ei ddefnyddio ar gyfer ein Cyngerdd Blynyddol ein
hunain ar Fehefin 11, yn ogystal â chael nifer o
briodasau i'w mynychu, gan gynnwys un yn Iwerddon! Mae
gennym gynlluniau i wneud record arall a byddwn yn
canu mewn gwyliau cerddorol eraill.
Gwyliwch
allan am gyhoeddiadau sy'n ein cysylltu â 'Chôr
Prostad Gwalia'. Nid ydynt yn gysylltiedig â ni mewn
gwirionedd, ond byddwn yn gysylltiedig â nhw ar gyfer
eu gwaith codi arian ar gyfer yr achos pwysig hwn.
Bydd ein cynlluniau teithio ein hunain yn gweithio
tuag at uchafbwynt arall ym mis Hydref, sef ymweliad â
hen ffrindiau ym Mannheim, yr Almaen eleni. Heb os,
bydd bywyd gyda Matthew yn chwirli-gwgan parhaus ac
edrychwn ymlaen ato gyda brwdfrydedd. Mae bywyd yn
ymwneud â pherfformiad o ansawdd uchel a hwyl gyda
thorf fawr.
Rydym
am i ragor o aelodau ddod gyda ni ar ein taith
gyffrous. Does dim angen i chi fod yn gerddor
'proffesiynol', dim ond rhywun sy'n mwynhau canu,
cwmni da a'r ymdeimlad o 'berthyn' i griw hapus o bobl
o'r un anian. Mae gan lawer ohonom hanes o ddyddiau
chwaraeon ac wrth ein boddau â'r cyfeillgarwch, felly
dewch i ymarfer i gwrdd â'r gang, holwch unrhyw un
ohonom amdano, neu cysylltwch â ni. Cewch groeso
cynnes ac yna gallwch ddechrau ar y ffordd i'n
hanturiaethau nesaf.
Tymor y Gaeaf
Felly, roedd hi nawr yn amser i ddychwelyd i'r
ymarferion a'r cyfnod cyn ein tymor Cyngherddau Nadolig,
gydag ychydig o fân ymddangosiadau i gadw'r amrywiaeth i
fynd. Cynhaliwyd ein cyngerdd tymhorol cyntaf ar 10
Rhagfyr yn Eglwys Saint Hileri yng Nghilâ lle cawsom
groeso cynnes iawn.
Un o'n lleoliadau llwyddiannus cyson yw’r All
Saints Church, Ystumllwynarth, gyda lle da i eistedd ac
acwsteg hyfryd. Felly, cynhaliwyd ein cyngerdd
blynyddol ar gyfer Maggies ar 15 Rhagfyr, a oedd hefyd yn
cynnwys Band Pres Pontarddulais. Hwn oedd digwyddiad mwyaf
y tymor ac roedd, unwaith eto, yn hynod boblogaidd.
Unwaith eto, trefnodd adran y merched eu cyngerdd
blynyddol ym Mhencadlys y Sgowtiaid ar 13 Rhagfyr ac roedd
hyn yn llwyddiant arall. Roedd ein Cyngerdd Nadolig,
sydd bob amser yn cael derbyniad gwych yn Neuadd Vivian,
Blackpill, ar 19 Rhagfyr lle cawsom drafferth ffitio’r côr
a'r gynulleidfa i mewn. Rhywsut, llwyddon nhw i'n cael ni
i gyd i mewn a rhoddodd y dorf, gan gynnwys yr Arglwydd
Faer Mike Day a'i wraig annwyl, ymateb cynnes iawn i
ni.
Rydym hefyd wedi bod yn dysgu egwyddorion sylfaenol canu,
mewn Gweithdy Canu a gynhaliwyd ar 21 Ionawr. Ein
gwestai am y diwrnod oedd Jeffrey Howard a gyflwynodd sesiwn i
brocio'r meddwl ar gyfer y cantorion. Gyda
thristwch mawr y mae'n rhaid i ni adrodd y bu farw William
John Morgan (John) yn sydyn ar 25 Hydref
2022. Rydym yn estyn ein cydymdeimlad i
Pauline, ei wraig, ac at ei holl deulu. Roedd
John wedi bod yn aelod gwerthfawr o'r côr ers dros 15
mlynedd, ac roedd yn fariton selog. Bydd yn
cael ei gofio am ei hiwmor ac fel dyn gofalgar iawn a oedd
bob amser yn cadw mewn cysylltiad â chantorion a oedd yn
sâl ac yn methu mynychu digwyddiadau côr. Ef
hefyd oedd yn rhedeg y raffl côr
wythnosol. Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei
holl ffrindiau yn y côr.
Gwlad Groeg - 5 i 12 Hydref 2022
Does dim dwywaith mai'r
uchafbwynt oedd taith wych i Wlad Groeg, ond, cyn hynny,
cawsom 'gyngerdd cyn y daith' yng Nghanolfan enwog Calon
Lân, gyda chynulleidfa wybodus a brwdfrydig. Yn fuan ar ôl
hynny, roeddem i ffwrdd i Wlad Groeg, gan gwrdd un bore
tywyll yn gynnar ym mis Hydref mewn glaw trwm i ddal
bysiau i Heathrow! Roedd traffig gwael wedi ein hoedi ond
roedd hwyliau’n iawn, gyda rhai cwisiau anodd i gadw'r
ymennydd i symud. Dylem hefyd gofio cyfraniad ein hadran
merched gweithgar i'r daith hon.
Ar ôl cyrraedd yr awyren,
roedd y criw wedi sylweddoli'n amlwg bod Côr Meibion
Cymreig ar ei fwrdd ac fe wnaethom ymateb i gais trwy
ddiddanu'r teithwyr eraill i gân. Nid yw’r acwsteg yn
fendigedig ar awyren, ond fe wnaethon ni ymdopi'n ddigon
da. Treuliasom y noson gyntaf yn Athen. Ar wahân i olygfa
o'r Acropolis o'r bwyty ar y to, mae'n ymddangos bod
atgofion o'r ddinas honno yn bennaf o dagfeydd traffig.
Fodd bynnag, roedd gan lawer ohonom wraig, ffrind neu
deulu gyda ni ac roedd yn llwyddiant cymdeithasol mawr,
gan fod cyfanswm o 87 o bobl yn ein parti. Ymlaen, yna,
ymhen amser, i Nafpaktos, ein canolfan am ychydig
ddyddiau, gan stopio i weld y Gamlas Corinth anhygoel ar y
ffordd. Cawsom ein cyfarch gan staff y gwesty yng Ngwesty
Lepanto Beach gan yr ardderchog Danielle a'i staff ac fe
wnaethom fwynhau digonedd o fwyd, yn bennaf yn y bwyty
cyfagos.
Yma dechreuodd yr
uchafbwynt go iawn i bob un ohonom. Roeddem yn gorwedd ar
y traeth, y rhan fwyaf ohonom yn profi'r dyfroedd cynnes
hefyd, er gwaethaf y rhai afieithus a oedd yn ceisio boddi
hanner y côr a chrwydro o amgylch yr ardal hyfryd a
hanesyddol hon. Roedd ein cyngerdd cyntaf yn gofiadwy, ar
yr harbwr hyfryd ac wedi'i amgylchynu gan hanes wrth i ni
ddilyn côr lletyol lleol a phedwarawd llinynnol da iawn yn
y lleoliad breuddwydiol hwn lle roeddent yn dathlu brwydr
Lepanto, y
frwydr fawr olaf a
ymladdwyd rhwng cychod rhwyfo. Gorchfygwyd yr Otomaniaid
gwrthwynebol, gyda llaw. I ychwanegu at yr uchafbwynt hwn,
cawsom ein diddanu gan a gyda'n côr 'Lletyol' mewn bwyty
lleol. Cyn bo hir roedd cerddoriaeth y ddeuawd o gitâr a
bouzouki wedi gwneud i lawer ohonom ddawnsio ac roedd
llawer o ganu, gan gynnwys unawdau, caneuon difrif gan Dan
neu Matthew a rhywfaint o hiwmor gan eraill. Efallai bod
yr adloniant wedi stopio yno, ond parhaodd rhai o'r
aelodau iau, ynghyd ag ychydig o’r rhai hŷn a allai fod
wedi gwybod yn well, i ganu yn ôl ger ein gwesty - ac ar y
traeth neu yn y dŵr - ymhell i mewn i'r nos!
Wel, parhaodd y daith,
gyda chyngherddau yng Ngŵyl Agrinio ac ym Mesologgi, oedd
yn plesio’r bobl leol, er nad oedd niferoedd yn y
gynulleidfa’n enfawr. Roedd y côr yn canu’n dda ac yn cael
ei werthfawrogi'n fawr gan bawb. Fodd bynnag, bydd yr
arhosiad yn Nafpaktos yn aros yn hir yn ein hatgofion.
Yna, aethom yn ôl i draffig Athen a'r hediad dychwelyd
(ie, gofynnwyd i ni ganu eto) a dychweliad hwyr i tua 50 o
gantorion a llawer o ffrindiau. Yn anffodus, cafwyd
ychydig o anafiadau ar ôl baglu a llithro, ond cafodd y
rhan fwyaf eu trin gan ein meddyg preswyl, Carl. Roedd yn
rhaid i’n baswr pybyr, Pip, aros yng Ngwlad Groeg am
wythnos neu ddwy oherwydd bod ei gwymp wedi arwain at
doriad clun ond, fel un o’r hoelion wyth, daeth i
ymarferion ychydig wythnosau ar ôl iddo ddychwelyd i
gymryd ei le yn y rheng flaen.
Ebrill
i Awst 2022
Gan mai fy nyletswydd gyntaf yw ysgrifennu'r diweddariad
hwn am y Côr, hoffwn ddiolch i'r holl Dîm Cerdd,
aelodau’r Côr, Cefnogwyr, Noddwyr, y Pwyllgor a'n
Llywydd am groeso mor gynnes ers cael fy mhenodi'n
Gyfarwyddwr Cerdd ym mis Chwefror. Ers hynny, mae'r Côr
wedi bod yn brysur iawn, nid yn unig yn canu mewn
priodasau ac ymrwymiadau eraill ond yn gweithio'n galed
yn yr ymarferion hefyd. Gan addasu i dechnegau newydd ac
adeiladu perthynas rhyngof i a'r Côr.
Ym mis Mehefin cefais yr anrhydedd o lywyddu dros fy
nghyngerdd blynyddol cyntaf, ac roedd yn foment
emosiynol pan gyflwynwyd 'Baton y Côr' gan ein cyn
Gyfarwyddwr Cerdd, Nick ar ddechrau'r noson. Y cyngerdd
hwn yw ein prif ddigwyddiad ar gyfer y flwyddyn, lle
rydym yn mesur ein llwyddiant ac yn arddangos y Côr, a'i
alluoedd, i'n dilynwyr a'r cyhoedd. Roedd y cyngerdd yn
llwyddiant ysgubol. Roedd hyn yn amlwg gan ystyried y
gymeradwyaeth gref a dderbyniwyd yn dilyn y gân
derfynol. Hwn oedd y cyngerdd blynyddol cyntaf ers 3
blynedd, oherwydd y pandemig, ond roedd y ffordd y
perfformiodd y Côr a’i ymateb i'r achlysur yn gwneud i
mi deimlo'n falch iawn, yn enwedig gan ein bod wedi
gallu cynnwys repertoire newydd mewn cyfnod mor fyr o
amser. Cyfeiliodd Rhian, cyfeilydd y côr, gyda hyder a
sensitifrwydd. Hoffwn ddiolch i Rhian am ei gwaith caled
parhaus. Hoffwn hefyd ddiolch i'r holl ferched a helpodd
i wneud y noson yn gymaint o lwyddiant, ac sydd bob
amser yn barod i helpu. Ar y noson roeddem yn falch iawn
o groesawu ein perfformiwr gwadd Gwyddelig ar gyfer y
noson, Karl McGuckin, a fu'n ein diddanu ac a
ychwanegodd gymaint at y noson. Cyfeiliwyd i Karl yn
fedrus gan ein cyfeilydd gwadd Jeffery Howard. Rydym
eisoes yn edrych ymlaen at gyngerdd y flwyddyn nesaf,
a’r cynlluniau ar gyfer hynny sydd eisoes ar y gweill.
Ym mis Gorffennaf, yn dilyn y cyngerdd
blynyddol, aethom â'r Côr ar 'Daith Bws' byr gyda'n
'Ymarferion ar y Ffordd'. Hoffem ddiolch i'r Commercial
Inn, Cilâ, Clwb Rygbi'r Uplands, Clwb Hwylio Abertawe a
Chlwb Rygbi'r Mwmbwls am y croeso a'r defnydd o'u
cyfleusterau. Mae recriwtio yn bwysig iawn, ac o
ganlyniad rydym wedi croesawu 5 aelod newydd i'r
rhengoedd, gan gynnwys 2 denor cyntaf newydd, sy'n anodd
eu cael. Estynnaf groeso cynnes i'r holl aelodau newydd,
“rydych eisoes yn rhan bwysig o'n teulu, ac rwy'n dymuno
aelodaeth hir a ffrwythlon i chi gyda'r Côr”.
Wrth i ni edrych ymlaen, mae gan y Côr 2 ymrwymiad ar y
gorwel. Medi 10 yn Eglwys All Saints, fel rhan o Ŵyl y
Mwmbwls, a'n Cyngerdd Hydref ein hunain i'w gynnal yng
Nghanolfan Calon Lân gyda'n gwesteion 'Côr Y Gyrlais'.
Mae hyn cyn ein taith i Wlad Groeg, lle byddwn yn cymryd
rhan mewn gŵyl gerddoriaeth. Edrychaf ymlaen at
ysgrifennu atoch i gyd eto yn fuan gyda diweddariad, ar
ôl i ni ddychwelyd o’n taith. Edrychaf ymlaen at eich
gweld yn un o'n cyngherddau yn fuan.
Mawrth 2022
Ar ddydd Sul 6 Mawrth perfformiodd Cantorion
Gwalia eu cyngerdd cyntaf o'r flwyddyn yng nghlwb
Rygbi'r Mwmbwls.Cyngerdd
oedd hwn i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a hwn oedd y
digwyddiad cyntaf ar gyfer ein harweinydd newydd,
Matthew Sims. Gwnaethom hefyd groesawu ein cyfeilydd
Rhian Stone yn ôl. Roedd y cyngerdd yn llwyddiant
ysgubol wrth i'r côr berfformio o flaen torf enfawr, gan
ganu rhai eitemau traddodiadol Cymreig, ynghyd ag
eitemau o'n repertoire. Roedd hi'n brynhawn bendigedig
wedi'i goroni gyda’r dorf yn codi ar eu traed i
gymeradwyo ar y diwedd.Gwnaethom gynnal casgliad ar gyfer 'Cronfa Apêl
yr Wcráin'. Cefnogwyd y casgliad yn hael a chodwyd £350.Diolch yn fawr
i Glwb Rygbi'r Mwmbwls a'u Cadeirydd Simon Evans am eu
gwahoddiad a'u lletygarwch. Rydym yn gobeithio gwneud
hwn yn ddigwyddiad blynyddol yn y dyfodol.
Gyda thristwch mawr iawn y mae'n rhaid inni adrodd y bu
farw Peter Jacobs, un o'n Tenoriaid Cyntaf, ar 11
Mawrth.Bu
farw yn yr ysbyty ar ôl bod yn ymladd yn erbyn canser
ers amser maith.Bydd
colled fawr ar ei ôl ymysg holl aelodau ein côr, yn
enwedig am ei lais tenor hyfryd a'i synnwyr digrifwch
arbennig. Cydymdeimlwn yn ddwys â Rae a'i deulu.
Yn ein hymarferion rydym yn dysgu fersiwn newydd o "Calon
Lân" gan John Hughes sydd wedi'i drefnu gan Jeffrey
Howard.Rydym
yn edrych ymlaen at ddysgu "To Where You Are", a drefnir
gan Alwyn Humphreys gyda Geiriau a Cherddoriaeth gan
Richard Marx a Linda Thompson.
Chwefror
Y mis hwn, fe wnaethom gyfarfod â'n
Cyfarwyddwr Cerddorol newydd, Matthew Sims.Mae Matthew
yn gerddor/arweinydd brwdfrydig a galluog iawn ac mae
ganddo gynlluniau cyffrous i helpu i ddatblygu'r côr
a'n symud ymlaen.Cymerodd yr awenau mewn dau ymarfer gyda ni ac
yna ar Chwefror 22, pleidleisiodd y côr yn unfrydol
iddo gymryd drosodd fel eu rheolwr gyfarwyddwr
parhaol.Braf
iawn hefyd oedd gweld Rhian, ein cyfeilydd, yn
dychwelyd ar ôl seibiant hir.Bydd yn
parhau i chwarae yn ein hymarferion bob yn ail wythnos
ac yn ein perfformiadau cyhoeddus tra bydd Stephen yn
parhau ar yr wythnosau eraill.Rydym yn
ffodus iawn o gael Tîm Cerddoriaeth mor gryf.
Rydym yn falch
iawn o gyhoeddi bod Ian Bengeyfield (2il Denor), Barry
Jones (Bariton) a Neil Lewis (Bas) wedi pasio eu prawf
llais gyda Matt ac rydym yn eu croesawu fel aelodau
llawn o Gantorion Gwalia.
Am fwy o newyddion am y 48 mlynedd diwethaf cliciwch yma.